OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 129 (Cy. 17)
Y Dreth Gyngor, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â bilio, casglu a gorfodi'r dreth gyngor. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau1992 mewn perthynas â Chymru, er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyno cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor lleol, a wneir gan yr awdurdodau bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), neu sy'n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae'r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 yn galluogi cymryd y gostyngiadau a wneir yn unol â Rheoliadau 2013 i ystyriaeth wrth filio a gorfodi'r dreth gyngor.
Mae Rheoliadau 3 i 9 yn rhoi cyfeiriadau at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 yn lle’r cyfeiriadau o fewn Rheoliadau 1992 at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012.
Darpariaethau arbed yw rheoliadau 10 ac 11 sy'n darparu nad yw'r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu gynllun sy'n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 129 (Cy. 17)
Y Dreth gyngor, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 22 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2014
Yn dod i rym 14 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]) a pharagraffau 1(1), 2(2), 2(4)(a) a (j), 4, 5 ac 8 i 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
Diwygiadau
Diwygio Rheoliadau
2. Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992([3]) yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3. Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) yn is-baragraff (a) o'r diffiniad o “discount” yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012”([4]) rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”([5]);
(b) yn is-baragraff (a) o'r ddiffiniad o “exempt dwelling” yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.
4.Ym mharagraff (3) o reoliad 9 (rhagdybiaethau ynghylch anheddau)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013”([6]);
(b) yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b) a provision contained in an authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,”.
5. Yn rheoliad 10 (hysbysiad o ragdybiaeth)—
(a) ym mharagraff (6A), yn y lle cyntaf y mae'n ymddangos, yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”;
(b) ym mharagraff (6A) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—
“(i) informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reductions Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013 or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013, as the case may be;”
6. Ym mharagraff (1A) o reoliad 11 (cywiro rhagdybiaethau) yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.
7. Ym mharagraff (3) o reoliad 15 (rhagdybiaethau ynghylch disgownt)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013”;
(b) Yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b) a provision contained in the authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,”.
8. Ym mharagraff (1A) o reoliad 16 (cywiro rhagdybiaethau ynghylch disgownt) yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.
9. Ym mharagraff (2A) o reoliad 20 (hysbysiadau galw am dalu: taliadau sy'n ofynnol)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulation 2013;”;
(b) yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b) a provision contained in an authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,”.
RHAN 3
Arbedion
Dehongli
10. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau—
ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy'n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012.
Darpariaeth Arbed
11. Nid yw'r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 gan reoliadau 3 i 9 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â darpariaethau cynllun 2013.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth , un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2014
([1]) 1992 p.14. Diwygiwyd adran 113 gan baragraffau 40 a 52 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26), adran 80(1) a (4) i (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20). Diwygiwyd paragraff 2(4)(j) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan adran 16 (1) a (3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17). Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan adran 12(1) ac (8) i (13) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17). Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan baragraffau 40 a 53 (1) a (2) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).
([2]) Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny yn ddiweddarach i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).